P-03-316 Dylid gosod yr angen i gynnal hebryngwyr croesfannau ysgol sy’n bodoli eisoes yn amod o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghorau lleol na ellir mo’i newid.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn amod derbyn ar gyfer unrhyw Grant Teithio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bod y cyngor perthnasol yn parhau i gyflogi hebryngwyr croesfannau ysgol i ddiogelu ein plant. Yn benodol, dylid parhau i gadw’r un nifer o hebryngwyr a lleoliadau a oedd yn 2010 ac na ddylai statws yr hebryngwyr hyn newid oni bai bod mwyafrif o’r rhieni yn yr ysgolion perthnasol yn cytuno â hynny.
Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-316.htm
Cynigwyd gan: Mr C Payne
Nifer y llofnodion: 229
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y deisebydd a chan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.